Mae’r rhestr fer wedi ei chyhoeddi
12 / 09 / 2012
Dewiswyd yr ugain ar y rhestr fer gan banel o feirniaid dan gadeiryddiaeth y Llywydd. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 3 Hydref. Caiff y delweddau eu harddangos yn y Senedd, a bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn gallu pleidleisio dros eu hoff ffotograff mewn gwobr Dewis y Bobl arbennig.
Gallwch weld y rhestr fer yma: http://www.flickr.com/groups/2091604@N21/pool/
Cafodd prosiect Democratiaeth ar Waith yng Nghymru ei ddatblygu ar y cyd ag Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru Casnewydd a Ffotogallery, yr asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru.
Pwrpas y gystadleuaeth oedd cael pobl i weld bod gwleidyddiaeth yn ymwneud â materion sy’n bwysig i unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau, ac i ddangos y gall pobl, trwy weithio gyda’u cynrychiolwyr etholedig, fynd i’r afael â’r materion hynny a chael democratiaeth i weithio o’u plaid.
“Rwyf wrth fy modd â’r ymateb rydym wedi ei gael i’n cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf ac â safon y ceisiadau,” dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.
“Mae rhai o’r ffotograffau yn dangos gwir ddychymyg, angerdd a dawn.”
“Mae her yn wynebu’r panel beirniaid i ddewis un enillydd. Fodd bynnag, rwyf yr un mor awyddus i ddarganfod beth mae pobl Cymru yn ei feddwl hefyd, felly rwy’n annog pawb i ddod i’r Senedd i weld y ffotograffau neu i bleidleisio ar-lein ar wefan Democratiaeth ar Waith.”
Bydd enillydd panel y beirniaid ac enillydd Dewis y Bobl yn ennill camera SLR (rhodd gan Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd) a chwrs ffotograffiaeth gan Ffotogallery.
Mae’r panel beirniaid yn cynnwys ffotograffwyr rhyngwladol o fri:
- David Hurn – Newyddiadurwr ffotograffig, aelod o Magnum Photos a sylfaenydd y cwrs BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd;
- Yr Athro Dai Smith – Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, hanesydd ac awdur llyfrau ar gelfyddydau a diwylliant Cymru;
- Gideon Koppell – Artist, cynhyrchydd ffilmiau, Athro Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chymrawd Cysylltiol Coleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen;
- Marc Evans – Cyfarwyddwr ffilmiau megis Snow Cake a Hunky Dory ac Athro ar ymweliad yn ATRiuM, ysgol y celfyddydau creadigol, Prifysgol Morgannwg, a;
- Betina Skovbro – trefnydd Photomarathon UK a ffotograffydd ar ei liwt ei hun o Gaerdydd.
- Rosemary Butler AC – Llywydd y Cynulliad a chadeirydd y panel beirniaid.
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 3 Hydref.


