Ffotograffiaeth gan Rowan Lear
14 / 08 / 2012
Mae rheolau cystadleuaeth ffotograffiaeth Democratiaeth ar Waith yn nodi nad oes “angen i chi fod yn ffotograffydd, neu gael camera crand.” Mewn gwirionedd, nid oes angen camera arnoch o gwbl i greu ffotograffau diddorol sy’n dangos ôl meddwl.
Daw hyn yn glir wrth edrych ar wreiddiau’r gair “ffotograffiaeth”. Mae’r gair yn tarddu o ddau air Groegaidd; daw “ffoto” o’r gair sy’n golygu “golau”, a daw “graffiaeth” o’r gair sy’n golygu “ysgrifennu”. Felly, “ysgrifennu â golau” yw ffotograffiaeth. Ni cheir awgrym bod yn rhaid i gamera fod yn rhan o’r broses, ac, mewn gwirionedd, nid oes rheswm pam y dylai camera fod yn angenrheidiol i greu ffotograff.
Mae hanes lawn i ffotograffiaeth heb gamera. Roedd ffotograffau cyntaf William Henry Fox Talbot (1800-1877), sef un o ddyfeiswyr ffotograffiaeth, yn enghreifftiau mewn gwirionedd o’r hyn yr ydym yn eu galw’n ffotogramau erbyn hyn. Caiff ffotogram ei greu drwy roi gwrthrych yn uniongyrchol ar arwyneb sy’n sensitif i olau, ac yna caiff ei oleuo. O ganlyniad, caiff delwedd gysgod negatif ei chreu sy’n dangos amrywiaeth o ran arlliw a fydd yn dibynnu ar ba mor dryloyw yw’r gwrthrychau a ddefnyddir. Defnyddiodd Fox Talbot ddail, blodau a darnau o ddefnydd i greu cyfres o ddelweddau, a gyhoeddodd yn ddiweddarach mewn llyfr o’r enw Photogenic Drawings. Aeth yn ei flaen i ddyfeisio’r negatif ffotograffig – sy’n hanfodol i ddatblygiad ffotograffiaeth fel yr ydym ni’n ei hadnabod – a datblygodd dair elfen bwysicaf ffotograffiaeth analog: datblygu, sefydlogi, ac argraffu.
Roedd arbrofion ym maes ffotograffiaeth a gynhaliwyd ar yr un pryd mewn rhannau eraill o’r byd yn cynnwys ceisio sefydlogi’r ddelwedd a gynhyrchwyd drwy gyfrwng technoleg lawer hŷn, sef y camera obscura. Ar ôl i’r camera maint ystafell gael ei drawsnewid yn wrthrych maint bocs, sef yr hyn yr ydym ni’n gyfarwydd ag ef erbyn hyn, ganwyd ffotograffiaeth fodern, a ffynnodd. Fodd bynnag, ac efallai mewn ymateb i hynny, mabwysiadodd nifer o artistiaid y broses wreiddiol o greu ffotogramau ar gyfer eu gwaith. Yr enw a roddodd Christian Schad (1894-1982), wrth weithio yn negawdau cyntaf yr 20fed ganrif, ar ei gyfansoddiadau hardd ef oedd “Schadographs”. Yn Experimental Vision: The Evolution of the Photogram from 1919 (Gweriniaeth Iwerddon: Roberts Rinehart, 1994), mae Floris Neusüss yn nodi bod Christian Schad wedi’i ysbrydoli gan dameidiau a daflwyd, gwrthrychau gwastraff di-werth, a bychanfyd y fasged ysbwriel. Yn ei ffotogramau bychain, sy’n debyg i dlysau, roedd y stwff di-ffurf hwn, sef casgliad o froc môr gwareiddiad, yn dod at ei gilydd ar ffurf grwpiau aruchel o siapiau cain a oedd yn amlwg mewn cyflwr gosgeiddig a goleuedig.
Floris Neusüss (g. 1937) oedd un o’r artistiaid cyntaf i geisio creu ffotogram o’r corff dynol. Mae’n adnabyddus am ei ddelweddau maint cywir o gyrff noeth, a grëwyd ar ddarnau enfawr o bapur ffotograffig wedi’u rhoi ar y llawr. Roedd ei fodelau’n gorwedd ar y papur neu’n mynd ar eu cwrcwd uwchben y papur, ac yna’n cael eu goleuo. Yn y mannau hynny lle roedd y corff yn agos at y papur, roedd yr amlinelliad yn gliriach, a pho bellaf yr oedd darn o’r corff, lleiaf eglur y byddai’n ymddangos.
Mae’r broses o greu ffotogramau yn syml iawn, ac mae nifer o ddulliau y gellir eu defnyddio a nifer o ffurfiau posibl ar y ddelwedd derfynol. Mae digonedd o ganllawiau defnyddiol ar y rhyngrwyd – mae Photo-jojo wedi ysgrifennu cyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar greu ffotogramau gyda’ch hen bapur ffotograffau, heb orfod defnyddio camera, cemegion neu ystafell dywyll.(http://www.gizmodo.co.uk/2012/03/how-to-make-photographic-prints-without-a-camera-or-chemicals/)
Fodd bynnag, a ellir trosi’r dull di-gamera hwn ar gyfer yr oes ddigidol? Wel, gellir. Mae proses a elwir yn gyffredin yn “scanograffi” yn cynnwys creu delweddau heb ddefnyddio papur, ffilm na chamera – yr oll sydd ei angen arnoch yw sganiwr (a chyfrifiadur…)
Nodweddir delwedd a gaiff ei chreu drwy ddefnyddio sganiwr gan fanylder hynod a dyfnder ffocws bas iawn. Mae Katarina Jebb (g. 1962) yn artist o Brydain sy’n enwog am ddefnyddio sganwyr a ffotogopiwyr i greu delweddau hardd. Jebb a drefnodd i Tori Amos ddringo ar ben ffotogopïwr i greu’r ddelwedd drawiadol ar glawr yr albwm a gyhoeddodd yn 1998, sef “From the Choirgirl Hotel”.
Ceir yr enghreifftiau mwyaf swrrealaidd o’r dull hwn yng ngwaith Maggie Taylor (g. 1961). Bydd yn creu ei ffotograffau drwy gyfuno nifer o haenau o wrthrychau, delweddau a ffotograffau wedi’u sganio. Yn y ddelwedd isod, dechreuodd drwy sganio teip tun o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yna cyfansoddodd, cyfunodd a lliwiodd ei delwedd yn ddigidol. Byddai un o ffotograffau nodweddiadol Taylor yn cynnwys cymaint â 60 haen! Gan fod pob haen yn cynnwys ffotograffau o wrthrychau gwirioneddol a gaiff eu cyfuno wedyn, gellir ystyried hyn yn ei hanfod yn gam ymhellach o’r argraffiadau aml-lun a gaiff eu creu yn yr ystafell dywyll.
Ac os ydych yn amau gallu’r math hwn o ffotograffiaeth i fod yn berthnasol yn wleidyddol neu’n gymdeithasol, dylech nodi y bu i Oliver Chanarin (g. 1971) ac Adam Broomberg (g. 1970) greu ffotogram ar ryw lun yn ddiweddar sy’n gwneud datganiad gwleidyddol cryf. Yn 2008, gwnaethant dreulio cyfnod yn ffoto-ohebwyr yn Affganistan, lle yr oeddent yn rhan o uned rheng-flaen yn y fyddin Brydeinig. Mewn ymateb i sensora amlwg y fyddin o ran y delweddau y caniatawyd iddynt eu cynhyrchu, a’u hanfodlonrwydd cyffredinol â’r honiadau bod gwirionedd a gwrthrychedd ynghlwm wrth ffotograffau dogfennol o ryfeloedd, penderfynodd Chanarin a Broomberg gymryd rholyn o bapur lliw a’i roi yng ngolau dydd am amser cyfyngedig bob dydd. Arweiniodd y broses hon at greu gwaith ffotograffig sy’n cynnwys llinellau, patrymau a strwythurau lliw ac sy’n ymestyn am chwe metr. Rhoddir teitl syml, ond ingol, ar bob diwrnod, sy’n berthnasol i’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw, sef ‘The Day Nobody Died’ a ‘The Brother’s Suicide’. Fel delwedd a gwrthrych dogfennol, mae’r gwaith yn ysgytwol, ac mae’n feirniadaeth gref o’r ffotograffau yr oeddent yn eu hystyried yn rhai cynyrfiadol, unochrog o ardaloedd brwydro.
Mae Rowan Lear yn arlunydd, yn ysgrifennwr ac yn wneuthurwr ffilmiau sy’n byw yn Abertawe, ac ar hyn o bryd mae’n astudio gradd Meistr mewn Ffotograffiaeth: Deialogau Cyfoes.







