Democratiaeth ar waith yng Nghymru

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2012

Skip to content

Three Glances – Nigel Pugh

19 / 07 / 2012

Tynnais y ffotograff hwn yn Gay Pride, Caerdydd. Er nad oedd y ffotograff yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth gan ei fod wedi cael ei dynnu cyn y dyddiad perthnasol, mae’n cynnwys holl elfennau “Democratiaeth ar Waith”.
Rwyf wrth fy modd gydag adegau fel hyn! Golwg o ddirmyg neu anghrediniaeth ar wyneb y swyddog, yr olwg o “druan ohoni, dyw hi ddim yn deall” ar wyneb y cymeriad canol a’r person ar y dde heb sylwi ar ddim!

Yn ddiweddar, sefais fel ymgeisydd mewn etholiad cyngor. Gydol yr ymgyrch honno roeddwn i’n tynnu ffotograffau. Gyda thestun priodol i gyd-fynd â hwy, roedd y lluniau’n ffordd wych o amlygu neu egluro’r materion i’w cyfleu, a hynny’n well na thrwy ddefnyddio geiriau yn unig. Yna, roeddwn i’n defnyddio gwefannau cymdeithasol i rannu’r lluniau â’r gynulleidfa darged ac weithiau’n cael ymateb neu hyd yn oed gyfweliadau yn syth. Heb y lluniau, ni fyddai effaith y neges wedi bod mor llwyddiannus. (ewch i: http://cantongreens.org.uk/)

Mae “Democratiaeth ar Waith” yn friff eang. Mae democratiaeth o’n cwmpas ym mhobman ac mae’n gysylltiedig â bron bob agwedd ar fywyd. Nid oes yn rhaid i ddim byd fod yn amlwg, rhowch gyfle i’ch cynulleidfa ddarllen rhwng y llinellau. Cynnig man cychwyn yn unig yw pwrpas teitl neu friff, sef sail i stori weledol.
Rwyf bob amser yn gweld lluniau posibl neu straeon i’w hadrodd o’m hamgylch. Boed hynny y tu mewn neu y tu allan, boed law neu hindda, mae’r holl amodau hyn yn creu naws a fydd yn berthnasol i’ch stori neu’n ei dwyshau. Ewch â’ch camera a’r briff gyda chi gymaint ag y gallwch a gweld sut mae’n berthnasol i’r sefyllfa yr ydych ynddi. Chwiliwch am naws neu awyrgylch, ceisiwch weddu hynny i’ch pwnc, archwiliwch ei gyfansoddiad a’i onglau a byddwch yn greadigol gyda pha bynnag ddyfais ffotograffig sydd gennych chi. Yn amlach na pheidio, bydd y lluniau gorau yn dod atoch chi, os ydych yn edrych amdanynt.

Mae Nigel Pugh yn artist / ffotograffydd digidol hunan-gyflogedig yng Nghaerdydd sy’n seilio ei luniau ar y rhyngweithio rhwng yr awyrgylch naturiol a’r annaturiol. Yn aml, mae’r stori gymdeithasol gudd yn hanfodol i’w waith.

Dilynwch ef ar Twitter: @digitalartistNP.

Flickr:
 digitalartistNP – Photographs and Digital Art.

Gwefan: http://www.nigelpugh.co.uk.

Y gwobrau!

Tocyn ffotograffiaeth Ffotogallery

Dau gamera digidol SLR (a gyfrannwyd gan Ysgol Ffotograffiaeth Casnewydd)

Mae dau gategori i'r gystadleuaeth: Gwobr y Beirniaid (pan fydd y Panel Beirniadu’n dewis yr enillydd) a Dewis y Bobl (pan gaiff yr enillydd ei ddewis yn seiliedig ar y nifer uchaf o bleidleisiau gan y cyhoedd). Mae pob gwobr yn cynnwys un camera ac un cwrs.

Cliciwch yma i bleidleisio dros wobr Dewis y Bobl

Gweler Sut i gystadlu