Democratiaeth ar waith (gan Stuart Herbert)
21 / 06 / 2012
Efallai mai’r enghraifft fwyaf enwog o bŵer ffotograffiaeth i ddangos dinasyddion yn ceisio ddylanwadu ar eu cymdeithas yw’r llun eiconig o’r gwrthdystiwr dienw yn sgwâr Tiananmen yn Beijing ar 5 Mehefin 1989 (linc: http://en.wikipedia.org/wiki/Tank_Man).
Tynnwyd y llun gan y ffotograffydd Jeff Widener o’r Associated Press, a daeth i symboleiddio digwyddiadau erchyll y cyfnod hwnnw [http://en.wikipedia.org/wiki/Tiananmen_Square_protests_of_1989], ac fe’i hystyrir i fod yn un o ffotograffau mwyaf pwysig yr ugeinfed ganrif.
Erbyn hyn, nid oes rhaid i chi fynd i bendraw’r byd – neu dynnu llun o rywbeth mor ddramatig – i gael effaith ar y gymdeithas ddemocrataidd yr ydych yn byw ynddi. Nid oes ychwaith angen ichi fod yn ffotograffydd proffesiynol sy’n berchen ar offer proffesiynol ac wedi cael hyfforddiant proffesiynol.
Mae ffotograffiaeth gan ddinasyddion – pan fo pobl gyffredin yn tynnu lluniau o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch – yn un o ffenomenau newydd yr unfed ganrif ar hugain. Diolch i ffonau modern a chamerâu digidol cryno, mae bron i bawb yn cario camerâu pan eu bod yn mynd allan, a gallant rannu eu lluniau â’r byd i gyd mewn mater o eiliadau drwy wasanaethau a gwefannau fel Instagram, Facebook, Twitter a Flickr.
Mae yna gyfle – siŵr o fod yn eich poced chi – i ddefnyddio ffotograffiaeth i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n bwysig i’ch cymuned leol heddiw.
- Mae’n debygol fod gan eich cyngor lleol gyfrif Twitter; anfonwch ffotograff i’ch cyngor o rywbeth y mae angen iddynt roi sylw iddo a gweithredu arno;
- Mae’n debygol bod eich cynghorydd lleol neu’ch Aelod Cynulliad ar lein hefyd. Efallai na fydd e-bost yn unig yn ddigon i dynnu eu sylw, ond bydd atodi ffotograff i e-bost yn creu darlun cryfach o lawer;
- Efallai fod yna flog cymunedol lleol (sef blog tra-leol) a fyddai’n croesawu’ch llun a stori i gyd-fynd ag ef. Os nad oes blog o’r fath yn eich ardal, gallech chi a’ch cymdogion greu eich blog eich hun (mae digon o gymorth ar gael i’ch helpu i ddechrau ar y gwaith!);
- Ac, wrth gwrs, mae’r grŵp Democratiaeth ar Waith yng Nghymru ar Flickr lle gallwch gyflwyno lluniau i’r gystadleuaeth!
Fy mhwynt i yw bod ein democratiaeth yn fater o gymryd rhan yn y broses o wneud gwahaniaeth positif yn ein cymdeithas. Diolch i’r rhyngrwyd a chamerâu digidol modern, ni fu erioed mor hawdd i gymryd rhan yn y broses honno ag y mae yn awr.
Dyna beth yw democratiaeth ar waith. Beth sy’n eich atal rhag dechrau gweithredu heddiw?
Ffotograffydd amatur sy’n byw ar Merthyr Road, Pontypridd yw Stuart Herbert. Yn ei amser sbâr, mae’n gweithio ar brosiect i gyfleu ac archwilio’r dreftadaeth ddiwydiannol sy’n prinhau yn ne Cymru. Dyma ei wefan: http://blog.stuartherbert.com/photography/.


